E-ddysgu gyda Stonewall | Stonewall
Mewngofnodi
Chwaraewch Ran

E-ddysgu gyda Stonewall

Modiwlau hyfforddi ar-lein ar gyfer staff ysgolion, coleg a gwasanaethau plant a phobl ifanc

Fel sefydliad LHDT mwyaf Ewrop, mae Stonewall wedi treulio dros 30 mlynedd yn gweithio tuag at fyd lle mae gan bob plentyn a pherson ifanc fynediad i addysg gynhwysol LHDT.

Mae ein tîm profiadol yn falch o fod wedi cefnogi miloedd o ysgolion, colegau, awdurdodau lleol a gwasanaethau plant a phobl ifanc i herio bwlio a dathlu amrywiaeth.

Gan ddefnyddio ein blynyddoedd o brofiad o hyfforddi staff addysg, rydym wedi datblygu cyfres o gyrsiau e-ddysgu a fydd yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i chi gefnogi plant a phobl ifanc LHDT, yn ogystal â'ch helpu i ddod yn lleoliad cynhwysol LHDT.